Ymgyrch Sothach Sbwriel

  • ENG
  • CYM

adref . Telerau

  • Adref
  • Newyddion
  • Oriel
  • Parth gemau
  • Addewid
  • Nodweddion
  • Astudiaethau Achos
  • O gwmpas y Byd
  • Dolenni
  • Ailgylchu i chi?
  • Cysylltwch
Oes fideo gennych chi? Oes llun gennych chi? Oes stori gennych chi? Cliciwch yma i gyflwyno’ch lluniau, fideo a’ch testun...

Ffaith Afiach

Mae 60% o’r alwminiwm a ddefnyddir ym Mhrydain wedi cael ei ailgylchu cyn hynny, mae honna’n ffaith neis.

Cofrestrwch Crëwch eich proffil, rhannwch eich barn, ychwanegu gwreiddiau i’ch sylwadau... Tanysgrifiwch I Gylchlythyr Sothach Sbwriel Lluniwch eich Addewid Sothach Sbwriel eich hun

Telerau

1. Termau Perthnasol

1.1 Mae defnyddio’r wefan hon, www.reallyrubbishcampaign.org a’r holl isadrannau (“y Wefan”) yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn, sy’n dod i rym yn syth arth i chi ddefnyddio’r wefan am y tro cyntaf. Mae WRAP yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn unrhyw bryd trwy roi’r newidiadau ar-lein.

1.2 Rydych chi’n gyfrifol am adolygu’n gyson u wybodaeth a roddir ar-lein er mwyn cael rhybudd amserol o’r fath newidiadau. Mae’ch defnydd parhaus o’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu nodi yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb fel y’i newidiwyd gan y newidiadau hynny.

1.3 Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau ac Amodau hyn ac/neu delerau arbennig sy’n ymddangos mewn man arall ar y wefan hon sy’n berthnasol i ddefnydd penodol yna'r diwethaf fydd yn rhagori.

 

2. Cyfyngiadau ar Ddefnyddio Defnyddiau

2.1 Mae’r wefan hon yn eiddo i ac yn cael ei weithredu gan yr Ymgyrch Sothach Sbwriel yn ‘The Studios’, Stryd Burt, Bae Caerdydd, CF10 5FZ.

2.2 Oni bai bod hynny’n cael ei nodi fel arall mae’r cynnwys yn cynnwys yr enwau, y lluniau a’r logos sy’n dynodi YSS a’i nwyddau a’i wasanaethau yn eiddo i YSS ac yn cael eu diogelu, heb gyfyngiadau, yn unol â chyfreithiau hawlfraint a nodau masnach ac ni cheir eu hatgynhyrchu na’u hailargraffu.

2.3 Yn amodol ar 1.3 gellir copïo neu lwytho i lawr unrhyw ddefnydd a gynhyrchir gan YSS ar y Wefan hon (sydd, er mwyn osgoi amheuaeth, ddim yn cynnwys defnydd ar unrhyw wefan unrhyw drydydd parti cysylltiedig) at eich defnydd personol chi ar yr amod eich bod:

2.3.1 yn rhoi’r gosodiad canlynol ynghlwm wrth y defnydd “Mae’r defnydd hwn wedi ei atgynhyrchu ar gyfer fy nefnydd personol i yn unig o wefan  www.reallyrubbishcampaign.org yr Ymgyrch Sothach Sbwriel";

2.3.2 yn cytuno i beidio ag addasu, newid neu greu gwaith deilliadol o’r defnydd a gynhwysir ar y Safle hwn;

2.4 Os digwydd eich bod yn llwytho meddalwedd i lawr o’r Wefan yn unol â 2.3, mae’r meddalwedd yn cynnwys unrhyw ffeiliau, lluniau a gynhwysir yn nau a gynhyrchir gan y meddalwedd ac unrhyw ddata sy’n mynd gyda’r meddalwedd (gyda’i gilydd y “Meddalwedd”) yn cael eu trwyddedu i chi gan YSS. Dyw YSS ddim yn trosglwyddo teitl y Meddalwedd i chi. Chi sydd berchen ar y cyfrwng mae’r Meddalwedd yn cael ei recordio arno, ond YSS neu eraill sy’n cadw’r teitl llawn a chyflawn i’r Meddalwedd a’r holl hawliau eiddo deallusol gaiff eu cynnwys ynddo. Chewch chi ddim ailddosbarthu, gwerthu, dadelfennu, gwrth-adeiladu na dadosod y Meddalwedd.  

3. Atebolrwydd

3.1  Dyw YSS ddim yn gwarantu bod y gweithgarwch a gynhwysir yn y defnydd ar y Wefan hon yn gweithio heb dor neu’n rhydd o bob gwall, bod diffygion yn cael eu cywiro, na bod y Wefan hon na’r gweinyddwr sy’n ei wneud yn bosibl yn rhydd o firysau neu namau nac yn cynrychioli’r ymarferoldeb llawn, a dibynadwyaeth y defnyddiau.

3.2 Mae’r Wefan hon a’r wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau yn ymwneud â neu’n berthnasol i YSS, ei nwyddau a’i wasanaethu (neu i nwyddau a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei ddarparu “FEL Y MAE” ac ar sail “PAN AR GAEL” heb unrhyw gynrychiolaeth nac arnodiad a heb warant o unrhyw fath boed hwnnw wedi ei ddatgan neu ymhlyg, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau ymhlyg o ansawdd digonol, addasrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, cytunedd heb dresbas, diogelwch a chywirdeb. 

3.3 Er bod YSS yn gwneud pob ymdrech i warantu cywirdeb y wybodaeth a gynhwysir ar y Safle hwn, nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wallau ac mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth yma’n gwneud hynny ar ei fenter ei hun.

3.4 Dyw YSS ddim yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig ac nid yw o anghenraid yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir oddi fewn iddyn nhw. Nid yw rhestru’n golygu cefnogaeth o unrhyw fath.

3.5 Does dim yn y telerau a’r amodau hyn i weithredu na’i ddehongli i eithrio na chyfyngu ar:

3.5.1 unrhyw warant neu amod sy’n ymhlyg trwy statud pan fyddwch yn gweithredu fel “defnyddiwr” fel y caiff ei ddiffinio gan adran 12 o’r ddeddf telerau  cytundeb annheg 1977. Mewn achos o’r fath ni effeithir ar eich hawliau statudol gan y telerau a’r amodau hyn; neu

3.5.2 Atebolrwydd YSS am farwolaeth neu anaf personol a achoswyd o ganlyniad i esgeulustod YSS neu ei weision, y gweithwyr neu gynrychiolwyr. 

3.6 Oni bai am yr hyn a welir yng nghymal 3.5, ni fydd YSS, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw ddifrod yn cynnwys, heb gyfyngiad, difrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, neu unrhyw ddifrod o gwbl o ganlyniad i ddefnyddio neu golli defnydd, data, neu elw, boed hynny wrth weithredu’r cytundeb, esgeulustod neu weithredu camweddus arall, sydd o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â defnyddio’r Safle.

3.7 Ni fydd atebolrwydd llwyr YSS i chi am bob difrod, colledion ac achosion gweithredu (o dan y cytundeb ai peidio (yn cynnwys, ond heb gael ei gyfyngu i, esgeulustod) neu fel arall) fyth yn gallu bos yn fwy na’r swm a dalwyd gennych, os o gwbl, i gael defnyddio’r Safle.

4. Eich Cyfraniadau

4.1 Pan fyddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno unrhyw gyfraniad i’r Safle (yn cynnwys heb gyfyngiad unrhyw destun, graffeg, fideo neu sain) mae gofyn i chi, gyda’r cyflwyniad hwn i ganiatáu i YSS hawl a thrwydded barhaol, heb freindaliadau, heb fod yn gyfyngedig, y gellir ei is-drwyddedu i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliadol ohono, dosbarthu, perfformio, chwarae, ac arfer pob hawl hawlfraint a chyhoeddusrwydd sy’n gysylltiedig ac unrhyw waith yn fyd-eang ac/neu ei gynnwys mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfrwng sydd nawr yn wybyddus neu a ddatblygir yn nes ymlaen ar gyfer tymor llawn unrhyw hawl sy’n bodoli yn y fath gynnwys, yn gyson â chyfyngiadau preifatrwydd a gynhwysir ym Mholisi Preifatrwydd YSS. Os nad ydych am ganiatáu’r fath hawliau i YSS, awgrymir nad ydych yn cyflwyno’ch gwaith i’r Safle hwn. 

4.2 Trwy gyflwyno’ch cyfraniad i’r Safle hwn rydych hefyd yn:

4.2.1 gwarantu bod y fath gyfraniad yn waith gwreiddiol gennych chi a bod gennych yr hawl i’w ryddhau i WRAP ar gyfer y pwrpasau a nodir uchod; ac yn

4.2.2 digolledu YSS yn erbyn unrhyw ffioedd cyfreithiol, difrod a chostau eraill a ellir eu hwynebu gan YSS o ganlyniad i’ch methiant i gadw at y warant uchod; ac yn

4.2.3 cytuno i ildio unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad i bwrpasau ei gyflwyno a’i gyhoeddi ar y Safle hwn a’r pwrpasau eraill a nodir uchod; ac yn

4.2.4 cydnabod a chytuno y gellir ei gopïo neu ei lwytho i lawr gan ddefnyddwyr yn uno â chymal 2.3.

5. Defnyddi’r Wefan

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Safle hwn i bwrpasau cyfreithiol yn unig, ac mewn modd sydd ddim yn niweidio hawliau, nac yn cyfyngu ar nac atal y defnydd a mwynhad y Safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r fath gyfyngu neu atal yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu sy’n tarfu ar neu’n achosi blinder i unrhyw berson a throsglwyddo o gynnwys anweddus neu dramgwyddus neu dorri ar draws unrhyw lif normal o ddeialog oddi fewn i’r Safle hwn.

6. Terfyniad

6.1 Mae’r Cytundeb hwn yn effeithiol nes iddo gael ei derfynu gan y naill barti neu’r llall.

6.2 Gallwch derfynu’r Cytundeb hwn ar unrhyw amser trwy ddinistrio’r holl ddefnyddiau a gafwyd o’r Safle a’r holl ddogfennaeth berthnasol a’r holl gopïau a’r rhannau ohonyn nhw os gawson nhw’u gwneud o dan delerau’r Cytundeb neu fel arall.

6.3 Bydd y cytundeb hwn yn dod i ben yn syth heb rybudd gan YSS, os byddwch, yn ôl disgresiwn YSS, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu ddarpariaeth yn y Cytundeb hwn.

6.4 Wrth derfyni, rhaid i chi ddinistrio’r holl ddefnyddiau a gafwyd o’r Safle a’r holl ddogfennaeth berthnasol a’r holl gopïau a’r rhannau ohonyn nhw os gawson nhw’u gwneud o dan delerau’r Cytundeb neu fel arall.

7. Toradwyedd

Os bydd rhai o’r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu pennu’n anghyfreithlon, yn annilys neu os na ellir ei gorfodi’n gyfreithlon oherwydd cyfreithiau unrhyw dalaith neu wlad y bwriedir i’r Telerau a’r Amodau hyn fod effeithiol, yna i’r graddau ac oddi fewn i’r awdurdodaeth mae’r Telerau neu’r Amod yn anghyfreithlon, neu’n rai na ellir eu gorfodi’n gyfreithiol, caiff ei ddiddymu a’i dynnu o’r cymal hwn a bydd y telerau a’r amodau’n goroesi, yn aros mewn grym ac effaith llawn ac yn parhau i fod yn orfodol a gellir ei orfodi’n gyfreithiol.

8. Awdurdodaeth

8.1 Mae’r Safle hwn yn cael ei rheoli a’i gweithredu gan YSS o’r swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw YSS yn gwneud unrhyw honiad bod y defnyddiau ar y Safle yn addas neu ar gael i’w defnyddio mewn lleoliadau eraill. Mae unrhyw un sy’n dewis mynd i’r Safle o leoliadau eraill yn gwneud hynny yn ôl eu menter eu hun ac maen nhw’n gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol, os ac i’r graddau mae cyfreithiau lleol yn berthnasol.

8.2 Bydd y Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn ôl cyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod fydd yn codi yn destun penderfyniad yn ôl awdurdod llysoedd Cymru a Lloegr. 

 

The Act On CO2 Carbon Calculator has been developed by the UK Government and is based on Government approved data

Argraffu’r dudalen.Yn ôl i’r top

Yr holl gynnwys (h) 2006/07 Ymgyrch Sothach Sbwriel
Rhestr Diolchiadau’r Wefan . Fersiwn Testun . Telerau . Hygyrchedd