Dolenni
Partneriaid Sothach Sbwriel
Cysylltiadau â phartneriaid yr Ymgyrch Sothach Sbwriel sy’n gallu cynnig cymorth a chyngor ar faterion yn ymwneud â gwastraff a’r amgylchedd neu sy’ jest yn bobl neis i siarad â nhw!
- Cyngor Caerdydd
Ble dylech chi fynd i gael gwybodaeth am wasanaethau’r Cyngor ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng Nghaerdydd. Gallwch hefyd ffonio C2C ar 2087 2087 am gymorth a chyngor. - CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' sy'n cynnal Cynllun 'Craff am Wastraff', dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fe sefydlwyd cynllun 'Craff am Wastraff' i hyrwyddo'r 3A sef arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu sbwriel ledled Cymru. - Ymgyrch Cadwch Caerdydd yn Daclus
Mae Gwastraffwyr Gwirioneddol wrth eu bodd â’r Ymgyrch Cadwch Caerdydd yn Daclus, dewch ’mlaen Caerdydd stopiwch daflu sbwriel ar y llawr, eich dinas chi yw hi wedi’r cyfan! Mae eu gwefan newydd nhw ar fynd yn fyw, am y tro gallwch ymweld â nhw ar gyswllt Cyngor Caerdydd. Pob llwyddiant i CCD ddywedwn ni! - Ysgolion Eco
Mae’r rhaglen Ysgolion Eco yn rhoi fframwaith syml i alluogi eich ysgol i ddadansoddi’r ffordd y mae hi’n gweithredu ac i ddod yn fwy cynaliadwy. Y mae tair lefel o wobrwyo: Gwobr Efydd…hunan asesiad trwy’r wefan yn arwain at dystysgrif…Gwobr Arian ..hunan asesiad trwy’r wefan yn arwain at dystysgrif….Baner Werdd…asesiad allanol yn arwain at dystysgrif a baner. Bydd gwefan newydd Ysgolion Eco Cymru yn fyw cyn bo hir ac am y tro dyma’r cyswllt Prydeinig. - Cadw Cymru'n Daclus
Mae Cadw Cymru'n Daclus yn Elusen Amgylcheddol gofrestredigsy'n gweithio i wella amgylcheddau lleol Cymru. - CSEN
Mae Rhwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd (RhAGC) yn rhwydwaith annibynnol ar gyfer grwpiau a mudiadau sydd wedi adunedu i hyrwyddo egwyddorion datblygiad cynaliadwy drwy addysg yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.
