Ymgyrch Sothach Sbwriel

  • ENG
  • CYM

adref . Eitemau nodwedd . Cynaladwyedd

  • Adref
  • Newyddion
  • Oriel
  • Parth gemau
  • Addewid
  • Nodweddion
  • Astudiaethau Achos
  • O gwmpas y Byd
  • Dolenni
  • Ailgylchu i chi?
  • Cysylltwch
Oes fideo gennych chi? Oes llun gennych chi? Oes stori gennych chi? Cliciwch yma i gyflwyno’ch lluniau, fideo a’ch testun...

Ffaith Afiach

Each year in Britain, we throw away 28 million tonnes of rubbish from our homes. This weighs the same as three and a half million double decker buses. (Source: The Green parent website)

Cofrestrwch Crëwch eich proffil, rhannwch eich barn, ychwanegu gwreiddiau i’ch sylwadau... Tanysgrifiwch I Gylchlythyr Sothach Sbwriel Lluniwch eich Addewid Sothach Sbwriel eich hun

Eitemau nodwedd

Cynaladwyedd

dydd Mercher 20 Rhagfyr

Reusable Carrier Bag
  • Reusable Carrier Bag
  • Shower Don't Bath

"A oes rhaid i ni aros nes bod trychineb yn ein llethu cyn i ni wneud y newidiadau radical sydd angen eu gwneud i amddiffyn ein byd ar gyfer y cenedlaethau i ddod? Dyna sialens hanfodol datblygu cynaliadwy. Os gwnawn ni weithredu nawr yna mae llawer y gallwn ei achub a fydd fel arall yn diflannu am byth.."

John Gummer

Mae’n le mawr, y Ddaear. Fe allen ni gael ein hesgusodi am feddwl y gallen ni gymryd oddi wrtho a lluchio ynddo fel rydyn ni’n teimlo. Rydyn ni ychydig yn gallach nawr ac rydyn ni’n gwybod er ei bod yn fawr fod ein planed hefyd yn eiddil. Rydyn ni’n gwybod bod y tymheredd yn codi, mae’r capiau rhew yn toddi ac mae rhywogaethau’n marw na wydden ni am eu bodolaeth. Mae pawb yn gwybod y ffeithiau hyn, ond does dim llawer o bobl yn gwneud unrhyw beth amdano. Dyma’r broblem; oherwydd mae’n rhaid i bawb wneud rhywbeth am hyn neu mae’r Ddaear yn mynd i gael pwl dwl anferthol.

            Wrth y term gwyddonol ‘pwl dwl’ yna rydyn ni’n golygu y bydd y môr yn llyncu’r rhan fwyaf o’r tir ac unrhyw beth sydd arno (Caerdydd er enghraifft), bydd coedwigoedd yn troi’n anialwch, bydd stormydd yn dinistrio dinasoedd oedd unwaith byth bron yn gweld glaw a bydd gwareiddiad fel rydyn ni’n gwybod amdano yn dod i ben yn sydyn ac mewn modd annifyr. Bydd y Ddaear ei hun yn adfer ei hun, ymhen amser, ond bydd miliynau o blanhigion, anifeiliaid a phobl yn diflannu'r un modd â’r dodo. Bydd hyn yn digwydd, a hynny’n fuan. Fe gewch chi ei weld yn digwydd.

            Does dim rhaid iddo ddigwydd wrth gwrs, dim ond mae’n mynd i ddigwydd ar hyn o bryd. Y rheswm am hyn yw nad ydyn ni’n edrych ar ôl ein planed. Ydych chi wedi clywed erioed am ôl troed ecolegol? Dyna’r effaith mae person yn ei gael ar yr amgylchedd, dim ond trwy fyw. Mae’r person cyffredin yng Nghaerdydd yn defnyddio ac yn gwastraffu tair gwaith yn fwy nag y gall y Ddaear ei gynnal, dyna dri ôl troed yn lle un, neu un fawr iawn. Does dim diddordeb gan bobl fel arfer, ac maen nhw eisiau cario mlaen â’u bywydau fel maen nhw wedi ei wneud erioed. Wel, mae’n flin ganddon ni, ond dydy hyn ddim yn bosibl dim mwy. I barhau i fyw fel rydyn ni, rydyn ni angen chwe phlaned wrth gefn. Dydyn nhw ddim yn bodoli.

            Dyw gwyddonwyr ddim yn siŵr pryd y digwydd y pwynt na ellir troi’n ôl. Mae rhai’n dweud os gwnawn ni leihau’n gwastraff a’n allyriannau carbon yn sylweddol mewn 10 mlynedd, fe fyddwn ni’n iawn.  Mae eraill yn dweud ei bod eisoes yn rhy hwyr ac maen nhw wedi dechrau pentyrru stoc o duniau bwyd a buddsoddi mewn systemau diogelwch y cartref erbyn yr amser pan fydd cymdeithas yn chwalu.. Rydyn ni’n mynd i esgus bod y bobl olaf yn anghywir.  

            Y peth gwirion yw bod byw bywyd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn eich gwneud yn iachach, hapusach a chyfoethocach. Er enghraifft: byddai troi’r gwres i lawr 1 radd (fyddech chi ddim yn sylwi ar hyn) yn arbed 10% i’ch rhieni ar eich bil gwresogi. Gall peidio gadael peiriannau trydan heb eu troi i ffwrdd yn llwyr arbed £200 y flwyddyn. Byddai cerdded i fannau cyfagos, megis ysgol, yn hytrach na gyrru yno, yn eich gwneud yn iachach ac yn lleihau allyriannau cerbydau, felly hefyd bwyta mwy o fwyd lleol, tymhorol, yn hytrach na bwyta nwyddau wedi eu cludo miloedd o filltiroedd i’ch cyrraedd. Os nad yw bod yn iachach, bod â mwy o arian a theimlo mewn cytgord â natur yn eich gwneud i deimlo’n well, mae’n debyg y dylech fynd i rywle i gael gair gael â chi eich hun.

           Beth arall all person ei wneud? Dyma rai awgrymiadau; efallai hoffech chi sôn wrth eich rhieni amdanyn nhw:       

  • Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu wrth gwrs!

  • Trwsio pethau: peidiwch â’u taflu allan. Os ydych chi’n mynd i daflu hen bethau, ewch â nhw i siop elusen, nid i’r sgip.

  • Cerddwch neu beiciwch i lefydd. Dros bellteroedd byrion mae’n debyg y bydd yn gynt na delio gyda thraffig beth bynnag. Os ydych chi'n mynd yn bell, rhannwch gar.

  • Arbedwch eich tŷ rhag drafft. Caewch y llenni a throwch y gwres i lawr ychydig bach. Ystyriwch insiwleiddio’r waliau a’r llofft hefyd, mae’n arbed llawer o arian yn y pen draw

  • Peidiwch â gwastraffu bwyd, mae bwyd sy’n pydru yn creu methan, nwy tŷ gwydr. Bwytewch y bwyd neu compostiwch e. 

  • Trowch oleuadau i ffwrdd a pheidiwch â gadael pethau heb eu troi i ffwrdd yn llwyr.

  • Golchwch ddillad ar dymheredd o 30 gradd, mae’n arbed 40% o ynni

  • Wrth olchi (eich hun neu rywbeth arall), peidiwch â gadael y tap yn rhedeg, gan ollwng dŵr i lawr y plwg.

  • Cymrwch gawod, nid bath.

  • Peidiwch â berwi mwy o ddŵr na sydd ei angen arnoch chi.

  • Peidiwch â gadael i rywbeth sy’n gollwng ddal i ollwng. Trefnwch i’w trwsio!

  • Yn yr haf, taflwch ddŵr golchi ar yr ardd yn hytrach na defnyddio peipiau dŵr cymaint

  • Prynwch fwyd lleol a thymhorol. 

  • Defnyddiwch y siop leol, nid archfarchnad mae’n rhaid i chi yrru iddi.

  • Ailddefnyddiwch fagiau siopa plastig... a phopeth arall wedi meddwl.

  • Os ydych yn prynu peiriannau cegin newydd, prynwch rai sy’n defnyddio ynni’n effeithiol (gofynnwch a ydyn nhw cyn eu prynu) a, thra’ch bod chi wrthi, rhowch fylbiau arbed ynni o gwmpas y tŷ hefyd. 

  • Trefnwch i gael sgwrs â’ch teulu, edrychwch nhw ym myw eu llygaid a dwedwch “Petaen ni’n byw’n wyrdd, fe fydden ni’n gallu arbed cannoedd o bunnau bob blwyddyn a, thra’n bod ni wrthi, fe fydden ni’n arbed y byd.”

Er mwyn cynnal ein planed a’n ffordd o fyw, mae angen i ni wneud newidiadau sylfaenol. Mae’n cenhedlaeth ni’n taflu mwy na phob cenhedlaeth o’n blaen ni gyda’i gilydd, Yn syml iawn does dim angen hyn ac, a dweud y gwir, mae’n wiriondeb llwyr. Rywbryd ar hyd y ffordd fe anghofion ni ein bod yn rhan o’r Ddaear. Mae angen i Lywodraethau wneud cymaint ag y gallan nhw, ond mae'n rhaid iddo ddechrau yn y gwaelod gyda ni. Pofwyaf ohonon ni sy’n ceisio byw bywyd gwyrdd, y gorau fydd hi i bawb. Dechreuwch heddiw i sicrhau’n yfory. A dweud y gwir, dechreuwch ddoe. 

"Fe fydd y dyfodol yn wyrdd neu fydd yna ddim dyfodol. Mae’r gwirionedd hwn wrth wraidd sialens fwyaf enbyd y ddynoliaeth: dysgu i fyw mewn harmoni â’r Ddaear ar sail gwirioneddol gynaliadwy”.

Sir Jonathon Porritt

 

Ychwanegwch eich sylw

Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch

The Act On CO2 Carbon Calculator has been developed by the UK Government and is based on Government approved data

Argraffu’r dudalen.Yn ôl i’r top

Yr holl gynnwys (h) 2006/07 Ymgyrch Sothach Sbwriel
Rhestr Diolchiadau’r Wefan . Fersiwn Graffeg . Telerau . Hygyrchedd