Astudiaethau Achos
Andrew Taylor
dydd Sul 17 Rhagfyr
Fy enw i yw Andrew Taylor. Rydw i’n byw yn Nhrelái ac rydw i’n rheolwr mewn cwmni ariannol lleol enwog. Fel arfer does gen i ddim llawer o amser ar gyfer r hyn roeddwn i bob amser yn ei ystyried yn ‘nonsens’ am ailgylchu ac achub y Ddaear.
Doedd hyn ddim yn croesi fy meddwl; mae’n rhaid i fi dreulio fy amser yn gwneud arian i gadw fy nheulu, nid cymryd rhan mewn croesgadau i achub y byd. Rydw i’n byw yn y byd real ac rydw i wedi bod yn gadael hyn i’r bobl ‘wyrdd’ allan fan yna. Dydy fy mab Ricky, ddim wedi dangos diddordeb chwaith, ond mae fy merch Angela wedi dechrau dysgu am hyn yn yr ysgol ychydig wythnosau yn ôl. Y peth olaf oeddwn i eisiau ei glywed ar ôl dod adref oedd pregeth oddi wrth Angela am sut rydw i’n boddi eith gwynion trwy adael golau’r cyntedd ymlaen.
Does dim sbel ers pan oeddwn yn gorfod dweud wrthi hi dro ar ôl tro i’w droi i ffwrdd. Digwyddodd rhywbeth rhyfedd yn ddiweddar, dechreuodd Ricky fy mhlagio i fod yn wyrddach, Dydy’r bachgen ddim erioed wedi bod ag unrhyw ddiddordeb yn y math yna o beth, pêl-droed sy’n bwysig iddo fe, ond yn sydyn roedd yn cega arna i. Roeddwn wedi dod i’r casgliad mai Angela oedd wedi dylanwadu arno ond yna un noson yn y gwely awgrymodd y wraig y gallen ni dalu mwy o sylw i’r hyn rydyn ni’n ei wastraffu. Oherwydd yr holl bwysau arna i, fe addewais edrych i mewn i’r peth ac fe neilltuais fin nos i wneud hyn.
Cadwodd fy ngwraig y plant allan o’r ystafell gefn tra mod i’n edrych ar y we fyd eang am wybodaeth am y peth. Roedd yr hyn a ddysgais yn fy synnu a ‘mhoeni ychydig. I dorri stori hir yn fyr, rydyn ni nawr yn gwylio’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Dydyn ni ddim yn gwastraffu dŵr, gwres na bwyd, rydyn ni’n ailgylchu popeth, sydd ddim yn drafferth o gwbl, ac fe wnes i amcangyfrif y gallen ni arbed yn agos i £260 y flwyddyn trwy wneud hyn i gyd.
Rydw i’n dweud wrth fy staff yn y gwaith lle roeddwn yn cwyno am hyn o’r blaen. Rydyn ni’n cael boeler sy’n defnyddio ynni’n effeithiol yn y Flwyddyn Newydd ac fe fydd ein waliau’n cael eu hinsiwleiddio cyn y gaeaf nesaf. Fydd y gost gychwynnol yn ddim o’i gymharu â’r arbedion a ddaw yn ei sgil ac nid dim ond yn ariannol
Ychwanegwch eich sylw
Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch
