Ymgyrch Sothach Sbwriel

  • ENG
  • CYM

adref . Astudiaethau Achos . Julie

  • Adref
  • Newyddion
  • Oriel
  • Parth gemau
  • Addewid
  • Nodweddion
  • Astudiaethau Achos
    • Jake Frasier
    • Andrew Taylor
    • Shane Howard
    • Pob astudiaeth achos
  • O gwmpas y Byd
  • Dolenni
  • Ailgylchu i chi?
  • Cysylltwch
Oes fideo gennych chi? Oes llun gennych chi? Oes stori gennych chi? Cliciwch yma i gyflwyno’ch lluniau, fideo a’ch testun...

Ffaith Afiach

Every year in the UK we use 13 billion steel cans which if you placed them end to end, would stretch to the moon - three times! (Source: Steel Can Recycling Information Bureau)

Cofrestrwch Crëwch eich proffil, rhannwch eich barn, ychwanegu gwreiddiau i’ch sylwadau... Tanysgrifiwch I Gylchlythyr Sothach Sbwriel Lluniwch eich Addewid Sothach Sbwriel eich hun

Astudiaethau Achos

Julie

dydd Mercher 1 Tachwedd

“Julie ydw i, rydw i’n  32, yn fam sengl â dwy ferch fach, Jenny, sy’n 9 ac Alex, sy’n 13. Rydw i’n byw yn Grangetown. Mae’r merched bob amser yn sôn am achub y blaned, petaech chi’n gwrando arnyn  nhw fe fyddech yn meddwl eu bod am wneud hynny ar eu pen eu hunain. Maen nhw’n gofyn i mi am ailgylchu drwy’r amser.

“Fel mam sengl, mewn tŷ dwy ystafell wely, yn gweithio llawn amser ac oriau ychwanegol i fyw, allwn i ddim eu hateb nhw;  fe fyddwn i’n newid y pwnc neu droi’n grac. Roeddwn i bob amser yn meddwl ‘mae’r gegin yn rhy fach o lawer ac rydw i’n llawer rhy brysur i ddechrau ar y busnes ailgylchu yma”.

“Roeddwn i’n dychmygu gorfod gwneud tomenni o gannoedd o ganiau, poteli a phapur am wythnosau ac yna’u llwytho i gyd i mewn i’r car a mynd â nhw i ganolfan. Doedd gen i ddim o’r amser na’r amynedd.”  

“Yna un diwrnod roeddwn i draw yn nhŷ mam un o ffrindiau Jenny yn cael coffi ac fe ddwedodd hi wrtha i am roi pethau mewn bagiau gwyrdd a pha mor hawdd yw gwneud hynny. Fe roddodd hi fagiau gwyrdd i mi, felly fe roddais dro arni. Fe roddais i’n holl ganiau, potiau iogwrt a photeli yn y bagiau gwyrdd a phopeth arall yn y bin fel arfer. Roeddwn i wedi synnu faint o sbwriel a allai gael ei ddefnyddio eto, roedd yr hen fin yn araf iawn yn llenwi. Doedd hyn ddim yn drafferth chwaith.

“Roedd y merched mor hapus ac roedden nhw’n dweud wrth bawb ein bod yn achub y blaned ac rydw i’n teimlo’n wirioneddol da am y peth. Rydw i hyd yn oed yn rhoi fy sbwriel yn y biniau ailgylchu cywir yn y dre er nad oeddwn wedi meddwl am y fath beth o’r blaen.”

 

Ychwanegwch eich sylw

Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch

The Act On CO2 Carbon Calculator has been developed by the UK Government and is based on Government approved data

Argraffu’r dudalen.Yn ôl i’r top

Yr holl gynnwys (h) 2006/07 Ymgyrch Sothach Sbwriel
Rhestr Diolchiadau’r Wefan . Fersiwn Graffeg . Telerau . Hygyrchedd