O gwmpas y Byd
De Korea
Mae Gweriniaeth Korea, neu Dde Korea fel rydyn ni’n ei hadnabod, yn wlad sy’n ymestyn fel rhan o benrhyn oddi ar arfordir China allan i Fôr Japan. Tafliad carreg yw’r wlad o Japan, os oes breichiau cryf gennych chi.
Mae pobl yng Ngweriniaeth Korea (De Korea) yn cymryd ailgylchu o ddifrif. Mae’r llywodraeth wedi mabwysiadu’r syniad o ailgylchu ac maen nhw wedi cyflwyno nifer o newidiadau sylweddol er mwyn cael pawb i gymryd rhan.
Cymrwch Seoul er enghraifft, prifddinas â thua 12 miliwn o bobl yn byw, gweithio a defnyddio adnoddau gyda’i gilydd; yn 2002, roedden nhw’n ailgylchu tua 15% o’u gwastraff ac roedden nhw’n rhedeg allan o fannau i lenwi tir. Fe benderfynon nhw wneud rhywbeth am hyn. Nawr, yn 2006, mae eu ffigwr ailgylchu wedi neidio i fyny i 60% ac maen nhw’n dal eisiau cynyddu hyn eto. Maen nhw’n frenhinoedd ailgylchu! Mae’r ffigurau ardderchog yma wedi eu cyrraedd trwy gadw at y syniad o leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Mae trigolion yn hapus i wahanu eu gwastraff yn fanwl a’i roi mewn bagiau o liwiau gwahanol. Mae’r ailgylchu’n amrywio o le i le, ond mae dosbarthiad nodweddiadol yn gallu cynnwys: gwydr, tuniau a chaniau mewn un bag, poteli PET mewn un arall. Mae plastigau a pholystyren yn mynd gyda’i gilydd tra bod darnau mawr o gardfwrdd ar eu pen eu hunain. Mae darnau bach o gardfwrdd a phapur yn cael eu casglu fel un, ond mae papur newydd yn cael ei gasglu ar wahân. Mae yna fag ar gyfer ffabrigau, a hyd yn oed un melyn ar gyfer gwastraff organig na ellir ei gompostio.
Mae’r holl fagiau amryliw yma’n cael eu casglu gan y dynion ailgylchu, sy’n eu pentyrru’n uchel ar eu tryciau bychain gan fynd i amrywiol ganolfannau ailgylchu sydd wedi codi ar hyd a lled y ddinas. Mae’r ychydig sydd ddim yn cyrraedd y bagiau lliw yn mynd i’r hyn sy’n gyfatebol i’n bagiau du ni, sy’n cael eu trethu. Os nad yw pobl yn gwahanu digon o’u sbwriel i’w ailgylchu maen nhw’n cael eu rhoi mewn catapwlt anferth a’i lluchio i mewn i Fôr Japan (D.S.: celwydd yw’r darn olaf yna). Hefyd mae yna dryc sy’n gyrru o gwmpas y ddinas yn casglu cyfarpar trydanol ac sy’n cyhoeddi eu presenoldeb ar uchelseinydd, yn debyg i’n dynion hel rhacs.
Mae’r siopau’n cymryd rhan hefyd. Rhaid i chi dalu am fag siopa plastig, tua 50 Won, i’ch annog i ddod ag un eich hun. Mewn siopau a thai bwyta, mae yna finiau gwahanol ar gyfer pob math o sbwriel. Os ydych yn yfed diod feddal, fe fyddai disgwyl i chi gael gwared â’r gwpan, y clawr, y gwelltyn ac unrhyw hylif dros ben ar wahân. Os yw tai bwyta bwyd cyflym neu sy’n cynhyrchu llawer o wastraff yn ailgylchu llai na 90 y cant o’u cynhwysyddion papur sydd wedi eu defnyddio, fe allen nhw gael eu dirwyo hyd at 3 miliwn Won (tua £1600).
Mae disgwyl i gwmnïau sy’n cynhyrchu gwastraff i ailgylchu hefyd. Mae’r rhaid i gynhyrchwyr a mewnforwyr diodydd mewn cynhwysyddion gwydr, metel neu PET a’r rhai sy’n defnyddio teiars ac sy’n defnyddio olewau iro dalu blaendal sy’n talu costau casglu ac ailgylchu eu defnyddiau gwastraff. Maen nhw’n cael eu harian yn ôl pan maen nhw’n rhoi eu defnyddiau mewn cyfleusterau ailgylchu neu dydyn nhw ddim yn gorfod talu o gwbl os ydyn nhw’n cynnal eu cynllun ailgylchu eu hunain.
Mae pobl a Llywodraeth De Korea wedi cymryd at ailgylchu a chynaladwyedd gyda brwdfrydedd a allai gwneud i nifer o wledydd eraill wrido. Rydyn ni’n rhoi pob clod iddyn nhw.
Ychwanegwch eich sylw
Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch
