Ymgyrch Sothach Sbwriel

  • ENG
  • CYM

adref . O gwmpas y Byd . Senegal

  • Adref
  • Newyddion
  • Oriel
  • Parth gemau
  • Addewid
  • Nodweddion
  • Astudiaethau Achos
  • O gwmpas y Byd
    • De Korea
    • Paris - The French System
    • Senegal
    • Pob gwlad
  • Dolenni
  • Ailgylchu i chi?
  • Cysylltwch
Oes fideo gennych chi? Oes llun gennych chi? Oes stori gennych chi? Cliciwch yma i gyflwyno’ch lluniau, fideo a’ch testun...

Ffaith Afiach

Yn y tunnell fetrig o wastraff mae’ch cartref yn ei greu bob blwyddyn (gweler ffaith 6), mae digon o ynni heb ei ddefnyddio ar gyfer 500 bath.

Cofrestrwch Crëwch eich proffil, rhannwch eich barn, ychwanegu gwreiddiau i’ch sylwadau... Tanysgrifiwch I Gylchlythyr Sothach Sbwriel Lluniwch eich Addewid Sothach Sbwriel eich hun

O gwmpas y Byd

Senegal

Senegal

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod mae Gweriniaeth Senegal yn gorwedd i’r dde o Afon Senegal ar arfordir gorllewinol Affrica ac mae yno broblemau sbwriel. Tan yn ddiweddar doedd dim gweithredu ailgylchu ar raddfa fawr yn Senegal, oherwydd ei fod yn costio gormod.

Yn y prif ddinasoedd, fel Dakar, byddai sbwriel yn casglu ar unrhyw dir gwastraff roedd pobl eisiau ei ddatblygu.

Ond, mae trigolion lleol wedi ymgymryd â’r dasg o sicrhau bod popeth sy’n gallu cael ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu. Mae tuniau cawl yn cael eu troi’n gwpanau, mae bagiau plastig a theiars yn cael eu troi’n esgidiau, mae papur newydd a dogfennau’n cael eu defnyddio i lapio ffrwythau a bara yn y marchnadoedd, ac mae hyd oed croen ffrwythau yn cael ei ddefnyddio i wneud persawr.  

Dyw pethau ddim yn stopio’r fan yna, mae metelau’n cael eu troi’n gadeiriau a byrddau, mae sachau plastig yn cael eu datod a’u hail weu’n raffau, ac mae papur, ynghyd â gwair a chywarch yn gynhwysyn hanfodol mewn matresi. Mae pobl yn arbenigo mewn mathau o wastraff, boed hynny’n wydr, plastig, papur neu beth bynnag gan eu troi’n nwyddau sy’n ffeindio’i ffordd yn ôl i’r farchnad.

Mae llenfetel yn ddeunydd poblogaidd i’w ailgylchu’n greadigol. Mae gweithwyr yn creu pethau fel drychau, blychau llwch, cesys neu deganau, i gyd wedi eu gwneud o ganiau llachar pop, coffi a chwrw. Mae’r dawnswyr Dogon lliwgar ym marchnad ymwelwyr Bamako, dros y ffin â Mali, yn eu gwisgo hyd yn oed.

Mae cwmnïau mawr yn dueddol o werthu dim ond nwyddau plastig a gwydr wedi eu hailgylchu, ond maen nhw’n gwneud hynny ar raddfa fawr. Bob blwyddyn mae cannoedd o dunelli metrig o blastig a gwydr yn mynd i mewn un pen o’r ffatri ac mae’n dod allan y pen arall fel bowlenni, tybiau a chynhwysyddion eraill mewn gwledd o liwiau llachar sy’n gwneud i nwyddau cotwm Batik traddodiadol fod mor lliwgar â phaent postyn lamp o’i gymharu.

Yn fwy diweddar mae cwmnïau mawr wedi dechrau gweithio un Senegal. Mae cwmnïau tebyg i Enterprise Works yn dosbarthu technoleg ailgylchu plastig i fusnesau sydd â diddordeb ynddo. Mae’r cwmni gwaredu gwastraff Alcyon yn trin sbwriel yn y brifddinas Dakar ac mae’n bwriadu cae; gwared ar domen anferth o’r enw Mbeubeuss ac ailgylchu llawer o wastraff y ddinas. Wrth i’r gwastraff leihau a bod swyddi’n cael eu creu, gall y bobl leol symud ymlaen oddi wrth y gwaith budr a pheryg weithiau o gasglu sbwriel.

Yn y wlad Affricanaidd fechan hon, mae ailgylchu’n gweithio’n wahanol i Brydain, ond, er hynny,  mae’n gweithio. Efallai ein bod wedi cael ambell awgrym hyd yn oed; gallwch brynu casys pensiliau a llyfrau nodiadau wedi eu gwneud o deiars, neu ddefnyddiau egsotig y gellir eu hailgylchu yng Nghaerdydd heddiw.

 

Ychwanegwch eich sylw

Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch

The Act On CO2 Carbon Calculator has been developed by the UK Government and is based on Government approved data

Argraffu’r dudalen.Yn ôl i’r top

Yr holl gynnwys (h) 2006/07 Ymgyrch Sothach Sbwriel
Rhestr Diolchiadau’r Wefan . Fersiwn Graffeg . Telerau . Hygyrchedd